Mark Isherwood MS
Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1SN
Ein Cyf/Our Ref: 241219/PBU/TM
20 Rhagfyr 2024
Annwyl Mr Isherwood,
Penodiadau Cyhoeddus
Rwyf yn ysgrifennu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar y gwaith sy'n cael ei wneud i bennu asesiad iaith Gymraeg aelodau ein bwrdd.
Yn ystod wythnos gyntaf mis Ionawr, byddwn yn anfon arolwg byr at aelodau'r bwrdd i gofnodi eu sgiliau Cymraeg (gwrando, darllen, siarad ac ysgrifennu). Ein nod yw rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor ar ganlyniad yr arolwg hwnnw erbyn diwedd mis Chwefror 2025. Mae hyn yn cyd-fynd â Cham Gweithredu 1.1 o'r Strategaeth Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru ac fe fydd yn ein galluogi i sefydlu llinell sylfaen i lywio camau gweithredu yn y dyfodol. Bydd yr arolwg hwn yn casglu data oddi wrth Gyrff y Sector Cyhoeddus a restrir yn y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor gan ddilyn y Cod Llywodraethiant ar Benodiadau Cyhoeddus.
Byddwn yn ymgorffori hyfedredd yn y Gymraeg mewn ymdrechion casglu data ar gyfer aelodau'r bwrdd yn y dyfodol. Mae sgiliau Cymraeg yn agwedd bwysig ar gynrychiolaeth ar ein byrddau, ac rydym yn ymroddedig i adeiladu byrddau sy'n adlewyrchu amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol Cymru.
Rwyf yn gobeithio y bydd hyn o gymorth i'r Pwyllgor wrth ystyried ei Ymchwiliad i Benodiadau Cyhoeddus.
Yn gywir
Tim Moss
Cyfarwyddwr Cyffredinol a Phrif Swyddog Gweithredol
Llywodraeth Cymru
Director General and Chief Operating Officer
Welsh Government